Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Chwefror 2019
Amser:
09.21 -
12.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5325
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Michelle Brown AC Hefin David AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC |
Tystion: |
Tim Pratt, ASCL Lee Cummins, Association of School and College Leaders (Cymru) (ASCL) Rob Williams, NAHT Dean Taylor, National Association of Headteachers (NAHT) Tim Newbould, National Association of Headteachers (NAHT) Tim Cox, NASUWT David Evans, National Education Union Cymru (NEU) Dilwyn Roberts-Young, UCAC |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a chafwyd ymddiheuriadau gan Jack
Sargeant AC. Nid oedd dirprwy ar ei ran.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ASCL a NAHT.
2.2 Gwnaethant gytuno i ddarparu gwybodaeth yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol ynghylch faint o arian a wariwyd ar welliannau ysgol.
Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan NASUWT, NEU ac UCAC.
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynghylch y llythyrau gan ADEW a CLlLC ar y cynnydd wrth ddatblygu'r Cwricwlwm newydd yng Nghymru a'r llythyr gan SNAP Cymru ar y cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y
sesiynau.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i gael eglurhad ynghylch rhai o'r manylion yn yr ymateb.